Search results for ""Author Rhiannon Heledd Williams""
University of Wales Press Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66
Dyma gyfrol sy'n ymdrin a hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai'r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i'r Cymry drafod pynciau'r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu'n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth - mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gwyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu'r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.
£12.99
University of Wales Press Cymraeg yn y Gweithle
Yn sgil y Mesur Iaith a’r Safonau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o alw nag erioed am weithwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru heddiw. Dyma lawlyfr ymarferol sydd â ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle, er mwyn ymestyn sgiliau iaith yn bennaf mewn cyd-destunau penodol a dulliau ymarferol. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith neu’n dymuno magu hyder wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ceir yma gyfarwyddiadau, enghreifftiau a phatrymau i’w hefelychu, tasgau ac ymarferion a phwyntiau trafod. Nid cyfrol ramadeg yw hon, ond llawlyfr hylaw sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun proffesiynol – canllaw defnyddiol ar gyfer gweithlu cyfoes yr 21ain ganrif. I ddarllen erthygl Rhiannon Heledd Williams am ei chyfrol, ewch at wefan Parallel.Cymru https://parallel.cymru/rhiannon-heledd-williams-cymraeg-yn-y-gweithle/
£17.99
University of Wales Press Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes
Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru.
£17.99