Description
Book SynopsisAr hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Table of ContentsBywgraffiad Rhagair Byrfoddau ‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre ‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion ‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith ‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr ‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn ‘Rhag gwŷr y gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt ‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid ‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb ‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest Crynhoi Llyfryddiaeth Mynegai