Description
Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dwy amcan. Yn gyntaf - ac am y tro cyntaf - mae'n cynnwys hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal a'r hanes cyffredinol, ceir penodau am y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr, a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. O ran ei syniadaeth, mae'r gyfrol yn neilltuol gyffrous, a thrafodir pethau mor amrywiol a chenedlaetholdeb a hil, perthynas y Cymry a threfedigaethedd a chaethwasiaeth, Saeson Cymraeg, gwleidyddiaeth iaith, ac amrywiaeth mewnol mewn diwylliannau lleiafrifol. Daw'r gyfrol i ben gan ofyn ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain. Mae'r cwbl yn rhan o brosiect ehangach yr awdur i geisio ailddehongli'r diwylliant Cymraeg o'i gwr.