Description
Book SynopsisCyflwynir yn y gyfrol hon holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’i alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a thrafodaeth ar gyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu hefyd gyfraniad ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad, i astudiaethau Paulaidd.
Table of ContentsRhagarweiniad Byrfoddau 1. Paul ac Iesu 2. Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol 3. Tröedigaeth neu Alwad? 4. Paul a’r Gyfraith 5. Soterioleg Paul 6. Cristoleg Paul 7. Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul 8. Dysgeidiaeth Foesol Paul 9. Yr Eglwys yn Paul 10. Eschatoleg Paul 12. Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol Llyfryddiaeth Mynegai