Description
Book SynopsisDiweddariad o'r gyfrol Cyflwyno'r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi'r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau'r gyfrol wreiddiol wedi'u diweddaru, ynghyd a phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisiau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a'r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a'r ganrif hon.
Table of ContentsRhagair Pennod 1: Dulliau Dysgu a’r Dosbarth Iaith - Emyr Davies Pennod 2: Cynllunio Gwers - Chris Reynolds Pennod 3: Y Wers Gyntaf – Geraint Wilson-Price Pennod 4: Gweithgareddau Cyfathrebol – Elwyn Hughes Pennod 5: Meithrin Sgiliau Darllen – Helen Prosser Pennod 6: Meithrin Sgiliau Ysgrifennu – Phyl Brake Pennod 7: Meithrin Sgiliau Gwrando a Deall a Gwylio a Deall – Julie Brake Pennod 8: Asesu – Emyr Davies Pennod 9: Dysgu Anffurfiol – Siôn Meredith Pennod 10: E-ddysgu a rôl yr e-diwtor – Christine Jones Pennod 11: Polisi ac Ymchwil ym Maes Cymraeg i Oedolion – Steve Morris Atodiad: Cymhwyster Cenedlaethol Dysgu-cyfunol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion – Mair Evans