Description
Book SynopsisCyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955-). Hon yw'r astudiaeth estynedig gyntaf o'i waith, a rhoddir sylw penodol i'r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 - cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i'r afael a phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ol-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i'r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ol-fodernaidd Gymraeg a'i harwyddocad i'n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg a beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio'r ffin dybiedig rhwng 'ffaith' a 'ffuglen'. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw a thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.
Table of ContentsDiolchiadau Rhagair Rhagymadrodd 1. Dechrau'r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd 2. O'r Merddwr Dychrynus 3. Ar drywydd Hen Lwybr a Stor au Eraill 4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol 5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda'r Frenhines 6. Pwyllgora a Chystadlu 7. Jean Baudrillard a'r cyflwr 'hyperreal' 8. Trafod Theori Cadi 9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog 10. Storiau Ffeithiol 11. Dadadeiladu 'Recsarseis Bwc' yn Cathod a Chwn 12. Adnabod Awdur? 13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a'r Ystlum a Dirgelion Eraill 14. Crefft y Stori Fer Heddiw 15. Di-ffinio 60 16. Hel Syniadau Llyfryddiaeth Ddethol