Description
Book SynopsisMae’r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a’r rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae’n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle’r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a’r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a’r cyfieithu lletchwith. Mae’n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o’r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae’n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae’n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o’r gwaith, ac mae’r cyngor a’r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd â phrofiad yr awdur o’r byd cyfieithu proffesiynol.
Table of ContentsCydnabyddiaethau Ffigurau a Thablau Rhagair Cyflwyniad I bwy mae’r llyfr hwn? Yr hyn na fydd yn cael ei drafod Diffiniadau Sut mae defnyddio’r gyfrol hon Gair am ieithwedd y gyfrol Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud? Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus Pennod 4: Darllen Er Mwyn Cyfieithu 81 Pennod 5: Strategaethau wrth Lunio Cyfieithiadau Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol Pennod 8: Clymu’r edafedd ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl Gair i gloi Darllen pellach Llyfryddiaeth Mynegai