Description
Book SynopsisA luxurious edition in paperback. The Mabinogi are the oldest and most famous legends in Wales. First written down around eight hundred years ago, they were being told for many years before that. Join us and explore these captivating stories with their unique mix of magic, romance, adventure, giants, wars and wizards.
Trade ReviewMae'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â Phedair Cainc y Mabinogi – rhai ohonom, o bosib, wedi gorfod eu hastudio'n fanwl mewn Cymraeg Canol, ac eraill ohonom wedi cael bras syniad o'r straeon ar ôl eu darllen mewn llyfrau plant. Wel, dyma lyfr sy'n cynnwys rhywbeth yn y canol – addasiad swmpus o'r pedair stori. Mae'r llyfr yn addas i blant hŷn ac oedolion. Mae ynddo dros 120 o dudalennau ac y mae hynny'n rhoi syniad i chi o'r manylder a geir yma. Mae'r llyfr clawr caled wedi cael ei gyflwyno mewn diwyg glân, hawdd ei ddarllen ond yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn gwbl atyniadol yw'r lluniau gan yr artist Valériane Leblond. Ar ddechrau'r gyfrol ceir llun o bawb ym mhob cainc gydag eglurhad pwy yw pwy. Ceir hefyd fapiau o Gymru'n dangos lle yn union mae'r mannau gwahanol a enwir yn y ceinciau. Dyma lyfr, heb os, sy'n haeddu bod yn hosan pob plentyn y Nadolig hwn. Bydd ei ddarllen yn rhoi cyflwyniad penigamp i rai o brif gymeriadau ein llên i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Mae'r awdur wedi dal naws y ceinciau i'r dim – eu tristwch a'u hiwmor, ac mae'r dweud mewn mannau yn hyfryd o gynnil a diwastraff. Mi ellid ei ddarllen dro ar ôl tro a chael pleser pur yn byseddu'r tudalennau cain. -- Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com