Description
Book SynopsisSut mae ysgrifennu drama ‘genedlaethol’ mewn cenedl ddwyieithog a diwladwriaeth? A yw ymdrech dramodwyr yr 1990au i ddychmygu cenedl amgen ac annibynnol ar lwyfan wedi pylu ers datganoli? Sut y mae lleiafrifoedd eraill wedi dygymod â heriau’r oes honedig ôl-fodern ac ôl-genedlaethol hon, ac a oes gan eu profiadau wersi i Gymru? Dyma rai o’r cwestiynau y mae nifer o arloeswyr y ddrama Gymraeg gyfoes yn ymhél â nhw yn y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres Safbwyntiau. Mae Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn yn gasgliad heriol o ysgrifau, wedi ei guradu a’i olygu gan un o’n dramodwyr mwyaf blaengar.
Table of ContentsRhagair Dramodydd ‘Proses’ Datganoli: Sylwadau ar Lwyfannu Cenedl Anghyflawn Ian Rowlands Plethu Diwylliannau Perfformio: Theatr Drawsddiwylliannol Gyfoes rhwng Cymru a Bryniau Casi Lisa Lewis Pwy fuck yw’r werin datws erbyn hyn?’ Y Werin, y Genedl a’r Ddrama Dafydd Llewelyn Menywod ar Lwyfan: Llais y Fenyw yn y Theatr Gymraeg Sharon Morgan Iaith fel Arf, Iaith fel Allwedd: Cyfweliad gydag Aled Jones Williams a Sergi Belbel Hannah Sams a David George Bywgraffiadau Mynegai