Description
Book SynopsisAn intriguing family saga by one of Wales' leading authors. Gavi, the Italian wine, links the characters who are all enquiring if we really know those people who are closest to us?
Trade ReviewOs cawsoch chi, fel fi, eich swyno gan y gyfrol
Rhannu Ambarél, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau hon, nofel ddiweddaraf Sonia Edwards. Dyma saga amlhaenog, afaelgar am deulu sy’n gwegian dan bwysau ei gyfrinachau. Mae gan bob cymeriad yn y nofel ei gyfrinach ei hun ac mae pob un yn ei dro yn ceisio rhesymoli a chyfiawnhau ei resymau dros geisio claddu’r gwir: pa fudd sydd o ddweud y gwir? Onid y peth clenia’ weithiau yw dweud celwydd? Ond yn raddol drwy’r nofel, yn null cynnil a disgybledig yr awdur, mae cwlwm tyn o gyfrinachau’n datod fel pelen o edafedd. Llwydda Sonia Edwards i greu cymeriadau sydd, er gwaethaf eu twyll, eu hanonestrwydd, eu hunanoldeb a’u hawydd i ddial, yn ennyn ein cydymdeimlad. Ei dawn yw ein galluogi i fynd y tu hwnt i’r cyfrinachau a’r celwydd, i ymuniaethu â’r bobl hyn ar lefel ddynol ac i ddeall ‘pam’. Yn anad dim, cariad yw prif thema’r nofel. Yn debyg i
Rhannu Ambarél, mae sawl math o gariad yn cael ei ddadansoddi a’i ddadelfennu’n graff dan chwyddwydr yr awdur. Archwilir y modd y gall cariad reoli ein hapusrwydd, ein codi’n uwch na’r cymylau a’n tynnu’n ddisymwth i lawr i’r dyfnderoedd. Gellid dadlau mai ym mherthynas Lwsi a Llew y profir cariad ar ei buraf – y cariad hwnnw sydd bron ag ymgyrraedd at y delfryd Platonaidd – ond nid yw hyn yn gyfystyr â dweud bod eu profiad hwy o fod mewn cariad yn fwy dilys na phrofiadau’r cymeriadau eraill. O’r dechrau’n deg, mae’r awdur yn herio’r syniad bod modd gwahaniaethu’n daclus rhwng cariad a serch: ‘Dim ond rhyw ydi o, meddet ti? Chwant? Blys byrhoedlog nad ydi o byth yn goroesi? Nad ydi o’n golygu dim? [...] Ac mi ddyweda inna wrthat titha: wyddost ti ddim be’ ydi bod mewn cariad.’ Yn wir, prin iawn yw’r awduron sy’n medru ysgrifennu mor gelfydd â Sonia Edwards am gariad. Does dim yn ystrydebol am ei hymdriniaeth â’r thema oesol hon. Yn ei harddull gyfareddol, unigryw, sy’n hardd heb fod yn flodeuog, dengys yr awdur yn y nofel hon fod cariad yn feistr ar bob un ohonom. -- Non Mererid Jones @ www.gwales.com