Description

Book Synopsis
An original picture book. This is a delightful story about the small Shetland pony with big enthusiasm and bravery. Meet Ladi and her loyal friends in this heart-warming story.

Trade Review
Ladi, a young Shetland pony, was looking forward to attending her very first horse show with her owner Cit. However, on arrival at the show, Ladi is overwhelmed by all the hustle and bustle and the fact that all the other horses are so much bigger than her. She meets Concyr, a particularly large stallion, who is determined to win first prize – whatever it takes. Torn between wanting to go back home and not wanting to let Cit down, panic begins to set in. With support from Twdlan, the loyal and friendly dog, will Ladi be able to dig deep and conquer her fears? -- Cyhoeddwr: Atebol
Dyma lyfr stori-a-llun gwreiddiol hyfryd o waith yr awdur Llanwedd Lawlor a’r arlunydd Jessica Wise sy’n rhoi tipyn bach o bopeth i chi – stori ddifyr, lluniau lliwgar a thestun dwyieithog ar yr un pryd. Rhywbeth ar gyfer pawb, felly! Fel gyda phob llyfr stori-a-llun, mae cael clawr deniadol yn hanfodol, ac mae clawr chwareus y llyfr hwn yn sicr o ddenu’r llygad, gyda dwy lygad taer Ladi’r ceffyl sioe wedi’u hoelio’n sgleiniog arnoch chi. Mae’r stori wedyn yn ein cyflwyno i nifer o anifeiliaid bach eraill wrth i Cit, perchennog Ladi, ddechrau ar y paratoadau ar gyfer y sioe lle bydd hi’n cystadlu. Cyflwyna’r stori safbwynt Ladi wrth fynd i’r sioe – ei chyffro, ond wedyn ei phryder a’i hansicrwydd hefyd wrth gyrraedd cae’r sioe a gweld cymaint o bobl a chreaduriaid yno. Ac os oeddech chi’n meddwl bod yna gythraul ym myd y canu, mae’r un peth yn wir hefyd ym myd y ceffylau, gydag ymddangosiad y ceffyl hynod fawreddog, Concyr, sy’n ddigon i godi braw ar unrhyw geffyl bach diniwed arall. Drwy lwc, gan y beirniad mae’r gair olaf, ac heb ddateglu gormod, mae Ladi a Cit yn gwneud sioe dda iawn ohoni. Mae yna foeswers fach wedi’i gwau i mewn i’r stori, wrth gwrs, ond mae honno’n ddigon cynnil yn y stori. Mae gosodiad y testun yn y llyfr yn ddigon creadigol, gyda chwarae â ffontiau o ran lliw, math a maint. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa yng Nghymru’n ddigon cyfarwydd â chael llyfrau dwyieithog, gyda’r testun Saesneg yn ymddangos mewn ffont llai ar yr un dudalen â’r fersiwn Gymraeg. Does dim rhaid i chi sylwi o gwbl ar y fersiwn Saesneg os nad ydych chi’n dymuno, ond gall weithio fel arf hynod ddefnyddiol ar gyfer rhieni di-Gymraeg a dysgwyr, yn ôl yr angen. Efallai y buaswn i wedi ffafrio gweld y ffont Saesneg mewn italig, er mwyn dangos mwy o wahaniaeth fyth rhyngddo â’r testun Cymraeg, rhag i’r llygaid gael eu tynnu’n ormodol ato. Yn naturiol, denu’r llygad yw diben y lluiau mewn llyfr stori-a-llun hefyd, ac yn sicr mae’r defnydd o liwiau trawiadol a chyferbyniol ar wahanol dudalenau’n hybu diddordeb. Mae llunaiu Jessica Wise yn dwt a glân ac yn ychwanegu’r diddordeb disgwyliadwy. Llyfr gwreiddiol gwerth chweil, er y gallai’r pris gwerthu fod ychydig yn heriol i ambell gadw-mi-gei.

Diwrnod y Sioe / Show Day

    Product form

    £10.46

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm today for delivery by Mon 3 Aug 2026.

    A Paperback / softback by Llenwedd Lawlor, Jessica Wise

    Out of stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of Diwrnod y Sioe / Show Day by Llenwedd Lawlor

      Publisher: Atebol Cyfyngedig
      Publication Date: Publication Date: 29/06/2022
      ISBN13: 9781801062718, 978-1801062718
      ISBN10: 1801062714

      Description

      Book Synopsis
      An original picture book. This is a delightful story about the small Shetland pony with big enthusiasm and bravery. Meet Ladi and her loyal friends in this heart-warming story.

      Trade Review
      Ladi, a young Shetland pony, was looking forward to attending her very first horse show with her owner Cit. However, on arrival at the show, Ladi is overwhelmed by all the hustle and bustle and the fact that all the other horses are so much bigger than her. She meets Concyr, a particularly large stallion, who is determined to win first prize – whatever it takes. Torn between wanting to go back home and not wanting to let Cit down, panic begins to set in. With support from Twdlan, the loyal and friendly dog, will Ladi be able to dig deep and conquer her fears? -- Cyhoeddwr: Atebol
      Dyma lyfr stori-a-llun gwreiddiol hyfryd o waith yr awdur Llanwedd Lawlor a’r arlunydd Jessica Wise sy’n rhoi tipyn bach o bopeth i chi – stori ddifyr, lluniau lliwgar a thestun dwyieithog ar yr un pryd. Rhywbeth ar gyfer pawb, felly! Fel gyda phob llyfr stori-a-llun, mae cael clawr deniadol yn hanfodol, ac mae clawr chwareus y llyfr hwn yn sicr o ddenu’r llygad, gyda dwy lygad taer Ladi’r ceffyl sioe wedi’u hoelio’n sgleiniog arnoch chi. Mae’r stori wedyn yn ein cyflwyno i nifer o anifeiliaid bach eraill wrth i Cit, perchennog Ladi, ddechrau ar y paratoadau ar gyfer y sioe lle bydd hi’n cystadlu. Cyflwyna’r stori safbwynt Ladi wrth fynd i’r sioe – ei chyffro, ond wedyn ei phryder a’i hansicrwydd hefyd wrth gyrraedd cae’r sioe a gweld cymaint o bobl a chreaduriaid yno. Ac os oeddech chi’n meddwl bod yna gythraul ym myd y canu, mae’r un peth yn wir hefyd ym myd y ceffylau, gydag ymddangosiad y ceffyl hynod fawreddog, Concyr, sy’n ddigon i godi braw ar unrhyw geffyl bach diniwed arall. Drwy lwc, gan y beirniad mae’r gair olaf, ac heb ddateglu gormod, mae Ladi a Cit yn gwneud sioe dda iawn ohoni. Mae yna foeswers fach wedi’i gwau i mewn i’r stori, wrth gwrs, ond mae honno’n ddigon cynnil yn y stori. Mae gosodiad y testun yn y llyfr yn ddigon creadigol, gyda chwarae â ffontiau o ran lliw, math a maint. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa yng Nghymru’n ddigon cyfarwydd â chael llyfrau dwyieithog, gyda’r testun Saesneg yn ymddangos mewn ffont llai ar yr un dudalen â’r fersiwn Gymraeg. Does dim rhaid i chi sylwi o gwbl ar y fersiwn Saesneg os nad ydych chi’n dymuno, ond gall weithio fel arf hynod ddefnyddiol ar gyfer rhieni di-Gymraeg a dysgwyr, yn ôl yr angen. Efallai y buaswn i wedi ffafrio gweld y ffont Saesneg mewn italig, er mwyn dangos mwy o wahaniaeth fyth rhyngddo â’r testun Cymraeg, rhag i’r llygaid gael eu tynnu’n ormodol ato. Yn naturiol, denu’r llygad yw diben y lluiau mewn llyfr stori-a-llun hefyd, ac yn sicr mae’r defnydd o liwiau trawiadol a chyferbyniol ar wahanol dudalenau’n hybu diddordeb. Mae llunaiu Jessica Wise yn dwt a glân ac yn ychwanegu’r diddordeb disgwyliadwy. Llyfr gwreiddiol gwerth chweil, er y gallai’r pris gwerthu fod ychydig yn heriol i ambell gadw-mi-gei.

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account