Description

Book Synopsis
The story of a girl growing up in a city of towers with everyone spending every day building their towers higher and HIGHER, but the little girl questions the routine and longs for something more … A story with a positive message told in a gentle way with light- hearted illustrations by Huw Aaron.

Trade Review
Dyma lyfr lluniau newydd gan yr arlunydd a’r cartwnydd talentog Huw Aaron. Rydym yn gyfarwydd iawn â’i luniau a’i ddwdls sydd mewn nifer o lyfrau poblogaidd ac yng nghylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â chreu’r lluniau. Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd – wel o’r diwedd, dyma hi! Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Drwy’r dydd, pob dydd mae’r gweithwyr yn adeiladu tyrau uchel iawn sy’n ymestyn tuag at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr. Mae Petra druan wedi diflasu ar y gwaith beunyddiol o adeiladu tyrau. Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni ynghylch y cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi methu rhoi’r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, daw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth ac aiff â Petra ar antur ar draws y byd i weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd nag adeiladu tyrau? Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar a cheir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion!) ei bod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Llwydda'r llyfr i gyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant ynglŷn â’r byd o’u cwmpas. Un o negeseuon yr awdur yw bod rhyfeddodau lu i’w canfod o'n cwmpas ym mhob man, dim ond i inni fentro a mynd ati i chwilio. Mewn ffordd, trosiad yw’r llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn, a hwnnw reit o dan ein trwynau'n aml. Os am lyfr deniadol gyda stori hyfryd a neges gadarnhaol, Y Ddinas Uchel yw’r llyfr i chi. -- Morgan Dafydd @ www.gwales.com

Ddinas Uchel, Y

    Product form

    £6.99

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm today for delivery by Sat 1 Aug 2026.

    A Paperback / softback by Huw Aaron, Huw Aaron

    Out of stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of Ddinas Uchel, Y by Huw Aaron

      Publisher: Atebol Cyfyngedig
      Publication Date: Publication Date: 29/11/2019
      ISBN13: 9781913245047, 978-1913245047
      ISBN10: 1913245047

      Description

      Book Synopsis
      The story of a girl growing up in a city of towers with everyone spending every day building their towers higher and HIGHER, but the little girl questions the routine and longs for something more … A story with a positive message told in a gentle way with light- hearted illustrations by Huw Aaron.

      Trade Review
      Dyma lyfr lluniau newydd gan yr arlunydd a’r cartwnydd talentog Huw Aaron. Rydym yn gyfarwydd iawn â’i luniau a’i ddwdls sydd mewn nifer o lyfrau poblogaidd ac yng nghylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â chreu’r lluniau. Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd – wel o’r diwedd, dyma hi! Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Drwy’r dydd, pob dydd mae’r gweithwyr yn adeiladu tyrau uchel iawn sy’n ymestyn tuag at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr. Mae Petra druan wedi diflasu ar y gwaith beunyddiol o adeiladu tyrau. Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni ynghylch y cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi methu rhoi’r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, daw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth ac aiff â Petra ar antur ar draws y byd i weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd nag adeiladu tyrau? Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar a cheir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion!) ei bod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Llwydda'r llyfr i gyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant ynglŷn â’r byd o’u cwmpas. Un o negeseuon yr awdur yw bod rhyfeddodau lu i’w canfod o'n cwmpas ym mhob man, dim ond i inni fentro a mynd ati i chwilio. Mewn ffordd, trosiad yw’r llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn, a hwnnw reit o dan ein trwynau'n aml. Os am lyfr deniadol gyda stori hyfryd a neges gadarnhaol, Y Ddinas Uchel yw’r llyfr i chi. -- Morgan Dafydd @ www.gwales.com

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account