Description
Book SynopsisErbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael a'r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol. Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau'n cael eu trosglwyddo a'u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwyllianol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a'r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc. Drwy wneud hynny, mae'r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i pherthynas a'i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.
Table of ContentsRhagair Rhestr o ddarluniau ADRAN 1 Cyflwyniad i'r maes 1. Llenyddiaeth Gymraeg i blant 2. Ailafael yn yr Anrheg ADRAN 2 1820au-1840au 3. Y plentyn arwrol 4. Y plentyn darllengar ADRAN 3 1840au-1880au 5. Dyfeisio plentyndod 6. Delfrydau newydd 7. Ymestyn y dychymyg a'r meddwl 8. Casgliadau Ol-nodiadau Llyfryddiaeth Mynegai