Description

Book Synopsis
A book for Welsh learners, Advanced Level. A collection of diverse short stories, being a Welsh adaption of Windows of the Mind by Frank Brennan. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.

Trade Review
Beth sydd gennym yn Trwy’r Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol i’r darllenydd. Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Mae’r stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach o’r stori hon. Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod i’r gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Mae’r ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig. Mae’r tîm ysgrifennu yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod â'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun. Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir. Rydw i’n edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwy’r Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', a’r stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallai’r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd i’w ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth – dyma’r llyfr i chi. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael. -- Nicky Roberts @ www.gwales.com

Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri

    Product form

    £10.24

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm tomorrow for delivery by Thu 25 Jun 2026.

    A Paperback / softback by Frank Brennan, Manon Steffan Ros

    1 in stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri by Frank Brennan

      Publisher: Atebol Cyfyngedig
      Publication Date: 07/03/2022
      ISBN13: 9781912261437, 978-1912261437
      ISBN10: 191226143X

      Description

      Book Synopsis
      A book for Welsh learners, Advanced Level. A collection of diverse short stories, being a Welsh adaption of Windows of the Mind by Frank Brennan. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.

      Trade Review
      Beth sydd gennym yn Trwy’r Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol i’r darllenydd. Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Mae’r stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach o’r stori hon. Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod i’r gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Mae’r ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig. Mae’r tîm ysgrifennu yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod â'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun. Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir. Rydw i’n edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwy’r Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', a’r stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallai’r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd i’w ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth – dyma’r llyfr i chi. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael. -- Nicky Roberts @ www.gwales.com

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account