Description

Book Synopsis
A book for Welsh learners, Advanced Level. Katie has just moved to live in Wales with new husband Dylan. She had hope to live in a large house but things don't work out as she had anticipated, and she has to live with Dylan's parents. How will Dylan's family cope with a clumsy English woman?

Trade Review
Mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru a'r Gymraeg... -- Cyhoeddwr: Atebol
Mae Katie yn Saesnes, sy’n cwrdd â Chymro yn Sbaen; o ganlyniad i gorwynt o garwriaeth, maen nhw’n priodi ac yn paratoi at ddechrau bywyd gyda’i gilydd yng Nghymru, yn ei bentref Cymraeg ef, gyda’i deulu Cymraeg. Nid yw Katie yn siarad gair o Gymraeg, nac yn gwybod dim byd am hanes na diwylliant y Gymru Gymraeg chwaith. Mae’r nofel yn dilyn ei hymdrechion i gynefino â’i bywyd newydd, mewn ffordd ddoniol a difyr iawn, ond gyda mewnwelediad a dyfnder syfrdanol, o ystyried hyd ac ysgafnder y stori. Mae’r awdures, Sarah Reynolds, wedi priodi siaradwr Cymraeg, symud i Gymru a dysgu Cymraeg, felly mae hi’n ysgrifennu am sefyllfaoedd sydd yn seiliedig ar brofiadau personol; mae hynny'n amlwg ac mae'n cyfoethogi’r stori. Mae’r iaith yn glir ac yn eithaf sgyrsiol, sy’n gwneud y llyfr yn bleser i'w ddarllen. Gyda geirfa ddefnyddiol ar waelod pob tudalen ac adran eirfa yng nghefn y llyfr, does dim rhaid chwilio am eiriau yn y geiriadur yn aml, sydd yn helpu’r stori i lifo. Nid wyf yn berson sy’n chwerthin yn hawdd wrth ddarllen llyfrau; efallai fy mod i’n gwenu a mwynhau, ond gyda’r nofel hon roeddwn yn chwerthin yn aml, ac yn galw ar fy mhartner er mwyn darllen rhannau iddo fe. Roeddwn yn gallu uniaethu â’r prif gymeriad, fel Saesnes sy wedi symud i Gymru a dechrau perthynas gyda Chymro Cymraeg wrth ddysgu Cymraeg. Roedd nifer o sefyllfaoedd yn y llyfr roeddwn yn gallu gweld fy hunan ynddyn nhw! Ond o dan yr hiwmor mae rhywbeth arall. Mae’r ysgrifennu’n dangos parch a chariad at y wlad, ei phobl a’i hiaith, ac rwyf yn siŵr y byddaf yn dyfynnu nifer o rannau o’r llyfr hwn yn y dyfodol. Mae’r awdures yn feddylgar wrth roi sylw i'r agweddau amrywiol sydd gan bobl tuag at yr iaith. Ar yr un pryd, mae hi’n disgrifio’n dawel ond effeithiol sut deimlad yw syrthio mewn cariad â gwlad newydd, iaith newydd, cymuned newydd a bywyd newydd mewn ffordd y gallwn uniaethu â hi yn llwyr. Mae hwn yn llyfr difyr dros ben ar bob lefel. -- Sarah Graham @ www.gwales.com

Cyfres Amdani: Cyffesion Saesnes yng Nghymru

    Product form

    £10.46

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm today for delivery by Tue 4 Aug 2026.

    Out of stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of Cyfres Amdani: Cyffesion Saesnes yng Nghymru by

      Publisher:
      Publication Date: Publication Date:
      ISBN13: ,
      ISBN10:

      Description

      Book Synopsis
      A book for Welsh learners, Advanced Level. Katie has just moved to live in Wales with new husband Dylan. She had hope to live in a large house but things don't work out as she had anticipated, and she has to live with Dylan's parents. How will Dylan's family cope with a clumsy English woman?

      Trade Review
      Mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru a'r Gymraeg... -- Cyhoeddwr: Atebol
      Mae Katie yn Saesnes, sy’n cwrdd â Chymro yn Sbaen; o ganlyniad i gorwynt o garwriaeth, maen nhw’n priodi ac yn paratoi at ddechrau bywyd gyda’i gilydd yng Nghymru, yn ei bentref Cymraeg ef, gyda’i deulu Cymraeg. Nid yw Katie yn siarad gair o Gymraeg, nac yn gwybod dim byd am hanes na diwylliant y Gymru Gymraeg chwaith. Mae’r nofel yn dilyn ei hymdrechion i gynefino â’i bywyd newydd, mewn ffordd ddoniol a difyr iawn, ond gyda mewnwelediad a dyfnder syfrdanol, o ystyried hyd ac ysgafnder y stori. Mae’r awdures, Sarah Reynolds, wedi priodi siaradwr Cymraeg, symud i Gymru a dysgu Cymraeg, felly mae hi’n ysgrifennu am sefyllfaoedd sydd yn seiliedig ar brofiadau personol; mae hynny'n amlwg ac mae'n cyfoethogi’r stori. Mae’r iaith yn glir ac yn eithaf sgyrsiol, sy’n gwneud y llyfr yn bleser i'w ddarllen. Gyda geirfa ddefnyddiol ar waelod pob tudalen ac adran eirfa yng nghefn y llyfr, does dim rhaid chwilio am eiriau yn y geiriadur yn aml, sydd yn helpu’r stori i lifo. Nid wyf yn berson sy’n chwerthin yn hawdd wrth ddarllen llyfrau; efallai fy mod i’n gwenu a mwynhau, ond gyda’r nofel hon roeddwn yn chwerthin yn aml, ac yn galw ar fy mhartner er mwyn darllen rhannau iddo fe. Roeddwn yn gallu uniaethu â’r prif gymeriad, fel Saesnes sy wedi symud i Gymru a dechrau perthynas gyda Chymro Cymraeg wrth ddysgu Cymraeg. Roedd nifer o sefyllfaoedd yn y llyfr roeddwn yn gallu gweld fy hunan ynddyn nhw! Ond o dan yr hiwmor mae rhywbeth arall. Mae’r ysgrifennu’n dangos parch a chariad at y wlad, ei phobl a’i hiaith, ac rwyf yn siŵr y byddaf yn dyfynnu nifer o rannau o’r llyfr hwn yn y dyfodol. Mae’r awdures yn feddylgar wrth roi sylw i'r agweddau amrywiol sydd gan bobl tuag at yr iaith. Ar yr un pryd, mae hi’n disgrifio’n dawel ond effeithiol sut deimlad yw syrthio mewn cariad â gwlad newydd, iaith newydd, cymuned newydd a bywyd newydd mewn ffordd y gallwn uniaethu â hi yn llwyr. Mae hwn yn llyfr difyr dros ben ar bob lefel. -- Sarah Graham @ www.gwales.com

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account