Description
Book SynopsisEnjoy Wales's rich heritage of myth and fairy tales, re-told for young readers. From magical Welsh dragons that destroy a castle night after night, to a princess made out of flowers and a fairy changeling bother; from loyal hunting hound Gelert, to a boy who asks questions and goes on to become the greatest Welsh bard ever known...
Trade ReviewMae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o Gymru fel gwlad y gân, ond dyma gyfrol hyfryd a hylaw sy’n dangos hefyd, fel y dywed yr awdur ei hun, mai Cymru yw gwlad y chwedlau a bod rheini i’w gweld a’u teimlo o’n cwmpas ym mhob man. Er bod diwyg ac edrychiad nofel i
Chwedlau Cymru a’i Straeon Hud a Lledrith, addasiad y ddewines geiriau, Siân Lewis, o waith Claire Fayers sydd yma. Mae'r gyfrol yn gasgliad cynhwysfawr o bedair chwedl ar bymtheg o straeon o bob cwr o chornel o Gymru a’r Byd Arall. O’r cyfarwydd, megis chwedlau Blodeuwedd, Pwyll a Rhiannon a Gelert i’r mwy anghyfarwydd, yn cynnwys straeon 'Y Bachgen a Ofynnai Gwestiynau', 'Pwca yn y Pwll Copr' a 'Fy Mrawd, y Tylwythyn Teg', mae yna wir gyfoeth o fewn cloriau’r gyfrol hon. Cawn ein hatgoffa o helyntion Gwrtheyrn a pham mai draig sydd ar faner Cymru, hanes Cantre’r Gwaelod, ymweliad y diafol ag ardal Pontarfynach a’n cyflwyno i’r dewin Myrddin a’r bardd enwog Taliesin, heb sôn am anturiaethau’r o fyd y Mabinogi a’r tylwyth teg drygionus a digon creulon ar adegau. Oes, mae yna rywbeth i bawb. Ond yr hyn sy’n dod â hud a lledrith ychwanegol i’r gyfrol hon yw’r modd dychmygus y mae’r straeon yn cael eu hadrodd. Mae’r dawn dweud a’r diniweidrwydd yn amlwg. Dyna i chi’r cyfeiriad at Morgan Methu-canu yn y stori 'Telyn y Tywyth Teg' oedd yn ysu am gyrraedd y brig mewn ym mhopeth, yn cynnwys canu, er mor anobeithiol yr oedd e am wneud hynny: ‘Fel y gwyddom ni, Cymru yw Gwlad y Gân. Mae’n enwog am ei miwsig ac mae Cymro sy’n methu canu fe morfil sy’n methu nofio.’ Mae’r ysgrifennu’n agos atoch iawn ac yn llifo’n rhwydd ac yn naturiol, gan eich tynnu i mewn i fyd bob stori a’ch gafael yn dynn. Cewch eich arwain i mewn i bob stori gan gyflwyniad bach i’r hyn sydd i ddilyn, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddewis a dethol pa stori i’w darllen nesaf. Cyfrol i blant yw hon, wrth gwrs, ond does dim amheuaeth y bydd bob un o’r straeon o fewn ei chloriau’n apelio at ddarllenwyr o bob oed ac yn cynnig ysgogiad pellach i ddychwelyd at rai o’r testunau gwreiddiol. Mae’n siŵr hefyd fod yna straeon hud a lledrith tebyg i’w cael yn eich ardal chi, a dyma un o’r cyfrolau hynny a allai fod yn allwedd i gynnau eich awydd i chwilio am rai o’r rheini unwaith eto. Heb os, dyma gyfrol sy’n werth bob ceiniog ac yn anodd iawn ei rhoi i lawr. Mynnwch eich copi chi nawr. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com