Description

Book Synopsis
Not a traditional autobiography but a fascinating look back at the life and work of the author as a minister in three different areas in Wales.

Trade Review
Pan ymunodd Harri Parri â’r weinidogaeth roedd yna 700 o weinidogion ar lyfrau’r enwad – ‘mwy o lygod, wir, nag oedd yna o dyllau,’ fel y dywed yr awdur yn ei ddull dihafal ei hun. Doedd y dyddiau llwm ar grefydd ddim cweit wedi cyrraedd cefn gwlad Cymru ar ddechrau’r 60au, er bod yna bryd hynny enghreifftiau o ddynion ifanc, disglair yn cefnu ar y weinidogaeth gan fynd i weithio yn y cyfryngau neu fel gweithwyr cymdeithasol ac athrawon ysgol. Arhosodd Harri Parri yn y pulpud, er na chyfyngodd ei genadwri i’r sêt fawr a’r capel. Aeth â’i neges allan i’r priffyrdd a’r caeau gan roi gwasanaeth i dair ardal yn arbennig – Uwchaled, Porthmadog a Chaernarfon. Ymddengys mai’r brif gŵyn yn ei erbyn ar y dechrau oedd ei fod yn edrych yn rhy ifanc. ‘Ieuenctid oedd fy mhechod,’ meddai mewn un man gan adleisio nofel enwog John Rowlands. Mae yna siopau llyfrau ail-law sy’n drwmlwythog o gofiannau a hunangofiannau gweinidogion. Llyfrau sychlyd iawn yr olwg ydynt fel arfer. Nid felly’r gyfrol hon sy’n llawn asbri ac yn adleisio ei theitl i’r dim. Mae pwyslais yr awdur bob amser ar y bobl y bu yn eu gwasanaethu yn hytrach nag arno ef ei hun, er, mae’n amlwg mai fo yw’r ysgogydd i lawer o’r gweithgarwch a ddisgrifir. Cyffyrddiad ysgafn sydd i’r hunangofiant drwyddo draw, nid nad oes yma ddifrifwch pwrpas yn sylfaen i’r cwbwl. Canolog i’r hanes yw’r pwyslais ar bobl ifanc gyda’r sôn am y grwpiau theatr a’r pasiantau lu. Ychwaneger at hyn y teithio a’r pererindota a’r holl waith a wnaed tros amrywiol achosion da, a’r cyfan yn cynnig darlun o fwrlwm rhyfeddol. I lawer, wrth gwrs, awdur yw Harri Parri, un a enillodd enwogrwydd am ei straeon byrion digri, er iddo ysgrifennu nifer o lyfrau dwysach. Er iddo gydnabod dylanwad Islwyn Ffowc Elis a’i hoffter o waith P. G. Wodehouse, nid yw’n barod i’w restru ei hun ymysg y ‘gwir lenorion’. Bu ei gyfraniad, fe gredaf, yn fwy nag a dybia. Dawn ac egni yr awdur sy’n gwneud hon yn gyfrol mor wefreiddiol i’w darllen. Mae’n gyfraniad pwysig iawn i hanes Cristnogaeth yng Nghymru tros y trigain mlynedd diwethaf ac yn her i’r sawl sy’n mynnu ein bod yn byw mewn oes ôl-Gristnogol. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com

Cerdded y Palmant Golau

    Product form

    £12.22

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm today for delivery by Mon 3 Aug 2026.

    A Paperback / softback by Harri Parri

    Out of stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of Cerdded y Palmant Golau by Harri Parri

      Publisher: Gwasg y Bwthyn Cyf
      Publication Date: Publication Date: 04/05/2020
      ISBN13: 9781912173341, 978-1912173341
      ISBN10: 1912173344

      Description

      Book Synopsis
      Not a traditional autobiography but a fascinating look back at the life and work of the author as a minister in three different areas in Wales.

      Trade Review
      Pan ymunodd Harri Parri â’r weinidogaeth roedd yna 700 o weinidogion ar lyfrau’r enwad – ‘mwy o lygod, wir, nag oedd yna o dyllau,’ fel y dywed yr awdur yn ei ddull dihafal ei hun. Doedd y dyddiau llwm ar grefydd ddim cweit wedi cyrraedd cefn gwlad Cymru ar ddechrau’r 60au, er bod yna bryd hynny enghreifftiau o ddynion ifanc, disglair yn cefnu ar y weinidogaeth gan fynd i weithio yn y cyfryngau neu fel gweithwyr cymdeithasol ac athrawon ysgol. Arhosodd Harri Parri yn y pulpud, er na chyfyngodd ei genadwri i’r sêt fawr a’r capel. Aeth â’i neges allan i’r priffyrdd a’r caeau gan roi gwasanaeth i dair ardal yn arbennig – Uwchaled, Porthmadog a Chaernarfon. Ymddengys mai’r brif gŵyn yn ei erbyn ar y dechrau oedd ei fod yn edrych yn rhy ifanc. ‘Ieuenctid oedd fy mhechod,’ meddai mewn un man gan adleisio nofel enwog John Rowlands. Mae yna siopau llyfrau ail-law sy’n drwmlwythog o gofiannau a hunangofiannau gweinidogion. Llyfrau sychlyd iawn yr olwg ydynt fel arfer. Nid felly’r gyfrol hon sy’n llawn asbri ac yn adleisio ei theitl i’r dim. Mae pwyslais yr awdur bob amser ar y bobl y bu yn eu gwasanaethu yn hytrach nag arno ef ei hun, er, mae’n amlwg mai fo yw’r ysgogydd i lawer o’r gweithgarwch a ddisgrifir. Cyffyrddiad ysgafn sydd i’r hunangofiant drwyddo draw, nid nad oes yma ddifrifwch pwrpas yn sylfaen i’r cwbwl. Canolog i’r hanes yw’r pwyslais ar bobl ifanc gyda’r sôn am y grwpiau theatr a’r pasiantau lu. Ychwaneger at hyn y teithio a’r pererindota a’r holl waith a wnaed tros amrywiol achosion da, a’r cyfan yn cynnig darlun o fwrlwm rhyfeddol. I lawer, wrth gwrs, awdur yw Harri Parri, un a enillodd enwogrwydd am ei straeon byrion digri, er iddo ysgrifennu nifer o lyfrau dwysach. Er iddo gydnabod dylanwad Islwyn Ffowc Elis a’i hoffter o waith P. G. Wodehouse, nid yw’n barod i’w restru ei hun ymysg y ‘gwir lenorion’. Bu ei gyfraniad, fe gredaf, yn fwy nag a dybia. Dawn ac egni yr awdur sy’n gwneud hon yn gyfrol mor wefreiddiol i’w darllen. Mae’n gyfraniad pwysig iawn i hanes Cristnogaeth yng Nghymru tros y trigain mlynedd diwethaf ac yn her i’r sawl sy’n mynnu ein bod yn byw mewn oes ôl-Gristnogol. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account