Description

Book Synopsis
A highly visual and factual book with the aim of encouraging children to discover and learn more about 10 stories from Welsh history. Comprising stories about Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glyndŵr; Black Bart; Dic Penderyn/Merthyr Riots; Alfred Russel Wallace; the Penrhyn Strike; Race Riots of the 20th C; Eileen Beasley; the Aberfan tragedy and Devolution.

Trade Review
Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, sy’n gwneud yn union beth y mae’r teitl yn ei awgrymu – adrodd 10 o straeon o’n hanes ni fel Cymry, o’r canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wedi’u hysgrifennu gan yr awdur a’r sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, a’u darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 a’r llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd. Wedi dweud hynny, mae’r gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal â chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddoli’n fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest o’r hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Mae’r awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehongli’r hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y môr-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud â materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer o’r hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond mae’r wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth ati’n fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gyda’r bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace – gwyddonydd o Gymru a fu’n gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod. Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro sy’n cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, o’r Mabinogi i dywysogion Cymru, môr-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal â’r brwydrau a’r ffigyrau gwleidyddol a fu’n rhan o’n hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol –‘Cymru Drwy’r Oesoedd’ – sy’n dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol sy’n ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb sôn am restr o eiriau defnyddiol sy’n ddiweddglo i’r gyfrol. Ac mae’r cyfan wedi’i ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn. Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com

10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)

    Product form

    £12.21

    Includes FREE delivery

    Order before 4pm tomorrow for delivery by Tue 23 Jun 2026.

    A Hardback by Ifan Morgan Jones, Telor Gwyn

    Out of stock

      Trusted by thousands of customers. See 2,385+ Customer Reviews

      View other formats and editions of 10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod) by Ifan Morgan Jones

      Publisher: Rily Publications Ltd
      Publication Date: 09/03/2021
      ISBN13: 9781849675413, 978-1849675413
      ISBN10: 1849675414

      Description

      Book Synopsis
      A highly visual and factual book with the aim of encouraging children to discover and learn more about 10 stories from Welsh history. Comprising stories about Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glyndŵr; Black Bart; Dic Penderyn/Merthyr Riots; Alfred Russel Wallace; the Penrhyn Strike; Race Riots of the 20th C; Eileen Beasley; the Aberfan tragedy and Devolution.

      Trade Review
      Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, sy’n gwneud yn union beth y mae’r teitl yn ei awgrymu – adrodd 10 o straeon o’n hanes ni fel Cymry, o’r canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wedi’u hysgrifennu gan yr awdur a’r sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, a’u darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 a’r llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd. Wedi dweud hynny, mae’r gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal â chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddoli’n fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest o’r hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Mae’r awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehongli’r hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y môr-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud â materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer o’r hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond mae’r wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth ati’n fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gyda’r bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace – gwyddonydd o Gymru a fu’n gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod. Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro sy’n cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, o’r Mabinogi i dywysogion Cymru, môr-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal â’r brwydrau a’r ffigyrau gwleidyddol a fu’n rhan o’n hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol –‘Cymru Drwy’r Oesoedd’ – sy’n dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol sy’n ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb sôn am restr o eiriau defnyddiol sy’n ddiweddglo i’r gyfrol. Ac mae’r cyfan wedi’i ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn. Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com

      Recently viewed products

      © 2026 Book Curl

        • American Express
        • Apple Pay
        • Diners Club
        • Discover
        • Google Pay
        • Maestro
        • Mastercard
        • PayPal
        • Shop Pay
        • Union Pay
        • Visa

        Login

        Forgot your password?

        Don't have an account yet?
        Create account