{"product_id":"tag-9781904357247","title":"Tag","description":"\u003cb\u003eBook Synopsis\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eIt all started as a laugh, another of Motto's games. I only went along to help him out. I mean, that's what friends are for, isn't it? Then we tangled with the Sun Crew. Suddenly, I didn't have a friend. And the laughing stopped. A Welsh adaptation of Tag.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eTrade Review\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003e‘Stori sy’n ergydio’n galed’ yw hon yn ôl y broliant ar gefn y gyfrol, ac mae hynny’n sicr yn wir.   Mae’r teitl yn cyfeirio at y llofnod sy’n cael ei adael gan artistiaid graffiti, ac i’r byd hwnnw yr awn yng nghwmni Pete a Motto. Dyma stori am gyfeillgarwch ac am yr awydd i berthyn a bod yn rhan o grŵp.   Peter yw'r llefarydd, bachgen gydag atal dweud arno sy’n eilunaddoli Motto, a hwnnw yn ei dro'n manteisio ar ei ddiniweidrwydd. Mae Motto’n dyheu am fod yn enwog, gan beintio graffiti ar do bws ysgol er mwyn cael sylw. Yn fuan, mae Pete ac yntau mewn trafferthion am godi gwrychyn gang graffiti lleol.  Mae’r nofel yn llawn cymeriadau cymhleth, a diddorol, ac mae Pete a Motto’n gymeriadau byw iawn. Mae eu gobeithion, eu dyheadau a'u hofnau’n denu cydymdeimlad a rhwystredigaeth y darllenydd.    Cawn wybod ar gychwyn y llyfr am ddamwain erchyll, a datgelir yr hanes yn raddol. Mae ’na nifer o droeon annisgwyl a difyr yn y stori hon cyn iddi gyrraedd ei diweddglo chwerw-felys.    Mae byd y nofel hon yn anodd a bygythiol ar adegau – byd o ladrata, ymosodiadau a dial, byd dieithr iawn i'r mwyafrif ohonom ni, ddarllenwyr. Ac oni ddylai nofel dda gyflwyno darllenwyr i'r anghyfarwydd? -- Cerian Arianrhod @ www.gwales.com","brand":"Rily Publications Ltd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51360235913559,"sku":"9781904357247","price":9.59,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0817\/1739\/5799\/files\/9781904357247.jpg?v=1754127071","url":"https:\/\/bookcurl.com\/products\/tag-9781904357247","provider":"Book Curl","version":"1.0","type":"link"}