{"product_id":"llwybrau-cenhedloedd-9780708324714","title":"Llwybrau Cenhedloedd","description":"\u003cb\u003eBook Synopsis\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eDyma gyfrol arloesol sy'n craffu ar ddeunydd mewn tair iaith - y Gymraeg, y Saesneg a'r iaith Dsalagi (Cherokee) - a hynny wrth drafod gwahanol agweddau ar genhadaeth dau Fedyddiwr Cymreig a fu'n byw ac yn gweithio gyda'r genedl frodorol honno yn America.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eTrade Review\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003e\"A wladychwyd y Cymry?  Ynteu ai gwladychwyr oeddent?  Ceir golwg newydd ar y pwnc llosg hwn yn y gyfrol arloesol a dadlennol hon, sy'n trafod rhan gymhleth a diddorol y Cymry (yn bennaf ym mherson Evan Jones) yn ffawd drist cenedl frodorol y Cherokee yn y Taleithiau. Dyma lyfr cyfoethog, cynnil a chytbwys sy'n ennyn parch o'r newydd at oreuon y genedl Anghydffufriol ac yn cyfannu'r darlun a gychwynwyd yn y clasur Wales in Kasia.\" Athro M. Wynn Thomas, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe  \"Wrth adrodd hanes hynod ddadlennol y cenhadon Evan Jones a Thomas Roberts ymhlith cenedl y Tsalagi (Cherokee), mae Jerry Hunter yn archwilio grymoedd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol yr 1820au a'r 1830au yn America. Mae'n cyflwyno rhai o syniadau canolog Astudiaethau Cenhedloedd Brodorol America i gynulleidfa Gymraeg, tra hefyd yn ein gorfodi i ail ystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau Cymreig heddiw: cenedlaetholdeb a chrefydd; iaith a diwylliant; cymhathiad diwylliannol a'r frwydr i gynnal traddodiadau neilltuol. Heb os, mae 'Llwybrau Cenhedloedd' yn gampwaith o astudiaeth gymharol.\" Dr. Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eTable of Contents\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eGair Ynghylch Gair Diolchiadau Prolog: 1838 RHAN I: Y GENHADAETH GYMREIG I'R TSALAGI 1. Dinadawosgi Cymreig: Cenhadaeth Thomas Roberts ac Evan Jones, 1821 - 5 2. Ayvwi, Llythrennedd a'r Yonega Cymreig: Cenhadaeth Evan Jones, 1825 - 39 RHAN II: GWASG GYMRAEG AMERICA A BRODORION Y CYFANDIR, 1838 - 42 3. O Gigyddion Fflorida i Ymerodraeth y Gorllewin Pell: Y Cyfaill o'r Hen Wlad a Brodorion America, 1838 - 42 4. Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o'r Hen Wlad a Llen y Madogwys 5. 'Gwnaeth y wlad gam mawr a'r Indiaid ac nid yw'r eglwys yn glir yn y peth hyn': Y Cenhadwr Americanaidd, Y Beread a'r Brodorion, 1840 - 2 RHAN III: DAU GYLCHGRAWN, DWY IAITH, UN GREFYDD 6. Tsalagi Atsinvsidv: Cenhadwr Llenyddol Evan Jones 7. Cymhlethdodau Huodledd: Y Seren Orllewinol, Brodorion America a Chenhadaeth Evan Jones","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48884244644183,"sku":"9780708324714","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"url":"https:\/\/bookcurl.com\/products\/llwybrau-cenhedloedd-9780708324714","provider":"Book Curl","version":"1.0","type":"link"}