{"product_id":"griffith-davies-arloeswr-a-chymwynaswr-9781837720316","title":"Griffith Davies: Arloeswr a Chymwynaswr","description":"\u003cb\u003eBook Synopsis\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eDyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eTable of Contents\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eRhagair Golygydd y Gyfres                                                        Lluniau                                                                                         Diolchiadau                                                                                   Rhagair                                                                                             1 Bore Oes                                                                                        2 Y Chwarelwr                                                                                 3 I Lundain a Dysgu                                                                         4 Yr Actiwari                                                                                    5 Yr Ymgyrchydd                                                                             6 Yr Alltud                                                                                       7 Arloesi ac Anrhydeddau                                                               8 Y Penteulu                                                                                    9 Addysg a Chymwynasau                                                              10 Yr Hybarch                                                                                 11 Cefnogi a Chrefydda                                                                  12 Pen y daith ac Epilog                                                                 Nodiadau                                                                                         Mynegai","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":48887971414359,"sku":"9781837720316","price":16.14,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"url":"https:\/\/bookcurl.com\/products\/griffith-davies-arloeswr-a-chymwynaswr-9781837720316","provider":"Book Curl","version":"1.0","type":"link"}