{"product_id":"cof-diwylliannol-yng-nghymrur-cyfnod-modern-cynnar-9781837722402","title":"Cof Diwylliannol yng Nghymrur Cyfnod Modern","description":"\u003cb\u003eBook Synopsis\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eUn o brif seiliau hunaniaeth genedlaethol y Cymry yn ystod y cyfnod modern cynnar oedd eu hanes  roedd eu dealltwriaeth o'u gorffennol yn cynnig iddynt amlinelliad o'r hyn a oedd yn eu diffinio. Mae'r gyfrol hon yn archwilio naratifau hanes yn ôl damcaniaeth cof diwylliannol. Wrth ystyried testunau sy'n trafod hanes y Cymry fel cof diwylliannol cenedlaethol (hynny yw, dealltwriaeth o'r gorffennol a oedd yn diffinio'r genedl Gymreig), teflir goleuni o'r newydd ar hunaniaeth Gymreig. Mewn cyfnod o newidiadau crefyddol, gwleidyddol a deallusol arwyddocaol, felly, cafodd y gorffennol Cymreig ei ail-ddyfeisio yn ôl daliadau'r awduron; ac, o graffu ar sut yr aethpwyd ati i ddiffinio'r genedl trwy gofnodi'r gorffennol, amlygir inni arwyddocâd cofio'r gorffennol.","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51360181649751,"sku":"9781837722402","price":18.99,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"url":"https:\/\/bookcurl.com\/products\/cof-diwylliannol-yng-nghymrur-cyfnod-modern-cynnar-9781837722402","provider":"Book Curl","version":"1.0","type":"link"}