{"product_id":"chwedlaur-copa-coch-melltith-yn-y-mynydd-9781913245399","title":"Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd","description":"\u003cb\u003eBook Synopsis\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eMae cyfres Chwedlaur Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy - melltith yn y mynydd.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eTrade Review\u003c\/b\u003e\u003cbr\u003eMae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth.  Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd.  A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli...  • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn \u003ci\u003eYr Horwth\u003c\/i\u003e • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. -- Cyhoeddwr: Atebol","brand":"Atebol Cyfyngedig","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51020816122199,"sku":"9781913245399","price":6.39,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0817\/1739\/5799\/files\/9781913245399.jpg?v=1750784475","url":"https:\/\/bookcurl.com\/products\/chwedlaur-copa-coch-melltith-yn-y-mynydd-9781913245399","provider":"Book Curl","version":"1.0","type":"link"}